We have made our selection to highlight Welsh culture, local history and stories and, of course, the beauty of Wales. Our Welsh language selection is particularly targeted at the younger market. The music range is strong on the traditional elements but also features more modern Celtic themes.
Welsh Books
Products
-
Yn y Gwaed
No one is ever welcome in Arllechwedd - that is the only way that the family can safeguard its secret. A much-praised novel for adults and winner of the Daniel Owen Memorial Prize at the 1990 National Eisteddfod. New edition; first published in 1990 (ISBN 9780863836732).
Doedd dim croeso i neb yn Arllechwedd - dyna'r unig ffordd y gallai'r teulu geisio diogelu ei gyfrinachau. Nofel afaelgar a enillodd i'r awdur Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni, 1990. Argraffiad newydd; cyhoeddwyd gyntaf yn 1990 (ISBN 9780863836732).£7.99
-
Cymru Evan Jones
A fascinating record of Welsh traditions by Evan Jones (1850-1928), Ty'n-y-pant, Llanwrtyd, Powys.
Trysorfa o draddodiadau ac arferion cefn gwlad a gasglwyd gan Evan Jones (1850-1928), Ty'n-y-pant, Llanwrtyd, Powys. Dyma gyfrol i unrhyw un sy'n ymddiddori yn hanes bywyd bob dydd ein cyndeidiau£16.99
-
Amddiffyn fy Hun
The autobiography of the former Wales international footballer, Mark Aizlewood. It reveals the stormy and hard life of the native of Newport. Mark's story is excruciating - it is the tragic story of an alcoholic, but also the story of a survivor who has overcome his problems. With a foreword by Ian Rush.
Hunangofiant Mark Aizlewood, y pêl-droediwr rhyngwladol o Gymro a enillodd 39 o gapiau dros ei wlad. Dadlennir yn ddiffuant iawn yn y gyfrol hon fywyd stormus ac anodd y dyn caled o Gasnewydd. Mae stori Mark yn un ddirdynnol, stori drasig bywyd alcoholig, stori un sy'n goresgyn ei broblemau. Gyda rhagair gan Ian Rush.
⇑ Top£7.99
-
Golwg Arall
A reprinted collection of the lyrical work and natural wit of the late Archdruid Dic Jones, one of the nation's most natural and popular Welsh-language poet. The volume comprises a variety of strict and free metre poetry together with two dozen essays. First published in 2001.
Argraffiad newydd o gasgliad o farddoniaeth ac ysgrifau telynegol a ffraeth y diweddar Archdderwydd Dic Jones, un o gynganeddwyr mwyaf poblogaidd y genedl. Mae'r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o gywyddau, englynion a cherddi yn y mesur rhydd, ynghyd â dau ddwsin o ysgrifau. Cyhoeddwyd gyntaf yn 2001.£7.99
-
Tyner Yw'r Lleuad Heno
A long-awaited new play by Meic Povey. Dafydd is a student in Cardiff; living life to the full as a young North Walian in the capital. He's far, far away from the birthplace he's so fond of romanticising about, whilst raising his glass in the city's trendy bars and pubs. He returns to his familial home one fateful Sunday, to celebrate his much-loved grandfather's birthday.
Drama newydd gan Meic Povey i gyd-fynd â thaith gan Theatr Genedlaethol Cymru yn ystod Hydref a Thachwedd 2009. Does dim fel cyfrinach i gadw teulu'n un - yn deyrngar, yn ofnus, yn euog ac yn bwysicach fyth, yn fud. Ym mhellafoedd cefn gwlad, mae'r gyfrinach yn cael llonydd. Ond yna daw ymwelydd o'r ddinas bell - un sy'n chwilfrydig, yn chwareus ac yn malio dim am ganlyniadau.£6.99
-
Sampleri Cymreig/Welsh Samplers
A bilingual introduction to the tradition of creating samplers in Wales over the past 300 years. For centuries, producing a sampler of stitches on canvas was a popular pastime. From the wide variety of styles represented here, you will learn all about the particular features of Welsh samplers. Includes interesting facts about samplers and the people who made them.
Cyflwyniad dwyieithog i hanes creu sampleri yng Nghymru dros y 300 mlynedd diwethaf. Dros y canrifoedd, bu gweithio sampler ar gynfas yn draddodiad poblogaidd iawn. Yn y llyfryn hwn, cewch ddysgu am nodweddion arbennig sampler Cymreig a gweld amrywiaeth eang ohonynt. Yn cynnwys ffeithiau diddorol am sampleri a'r bobl oedd yn eu creu.£3.50
-
Tiwniwr Piano, Y
A second novel in Welsh by the author of Random Deaths and Custard. Efan, the piano tuner, has the key which gives him an insight to the secrets of his fellow citizens of Cardiff, but as he sees their secrets, he realises much more about his own life.
Ail nofel Gymraeg gan yr awdures ifanc Catrin Dafydd, yn cynnig golwg di-flewyn-ar-dafod ar fywyd Cymro Cymraeg yng Nghaerdydd heddiw. Mae gan Efan, y tiwniwr piano, allwedd i weld cyfrinachau bywydau pobl y ddinas, ond yn sgil hynny mae'n dod o hyd i gyfrinachau am bethau sy'n llawer nes at adref, sef ei fywyd ei hun.£7.99
-
Cwrw am Ddim
The story of an American who has enthusiastically learnt Welsh after randomly seeing a reference to the language on the web.
Stori ddifyr Americanwr sydd wedi mynd ati'n frwdfrydig i ddysgu'r Gymraeg ar hap ar ôl gweld cyfeiriad at yr iaith ar y we.£8.99
-
E-Ffrindiau
A story about two friends exchanging e-mails and learning Welsh. Ceri is a PE teacher in a school near Sydney in Australia. Sara, her e-friend, lives in a village not far from Cardiff and commutes to the city every day to work in an office. Reading material for Welsh learners at entry level.
Stori am ddwy ffrind sy'n cyfnewid negeseuon e-bost ac yn dysgu Cymraeg. Athrawes Ymarfer Corff sy'n byw yn agos i Sydney yn Awstralia yw Ceri, ac mae Sara, ei e-ffrind, yn byw mewn pentref heb fod yn bell o Gaerdydd ac yn teithio i'r brifddinas bob dydd i weithio mewn swyddfa. Deunydd darllen i ddysgwyr Cymraeg ar lefel mynediad.£7.99
-
Gwrach y Gwyllt
A gripping novel by a popular author set in the Dolgellau area in present times which uses strong language and imagery to relate the story of a young witch who returns to her home area to seek revenge for past wrongs. Reprint; first published in 2003, and the new edition in 2007.
Nofel afaelgar gan awdures boblogaidd, wedi ei lleoli yn ardal Dolgellau heddiw, sy'n defnyddio iaith a delweddau cryfion i adrodd hanes gwrach ifanc yn dychwelyd i fro ei mebyd i ddial am gam a wnaethpwyd â hi yn y gorffennol. Adargraffiad; cyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2003, a'r argraffiad newydd yn 2007.£7.99
-
Hiwmor John Ogwen
The actor and comedian John Ogwen shares his humour in this latest volume of the Ti'n Jocan series.
Yr actor a'r diddanwr John Ogwen sy'n rhannu ei hiwmor yn y gyfrol ddiweddaraf yn y gyfres Ti'n Jocan. Ceir yma domen o straeon o Ddyffryn Ogwen a llwyth o'i hoff jôcs - straeon o'r Ynys Werdd, am fywyd gwyllt, o fyd syrjeri'r doctor, y dafarn, ambell limrig a sawl jôc sy'n mynd i wrido bochau'r rhai gwangalon yn eich plith!£4.95
-
Chwilio am Sebastian Pierce
Nofel am dwyll a dialedd. Pasg 1973: mae'r rhyfel yn Fietnam newydd ddod i ben, mae sgandal Watergate yn ei hanterth ac ar y Costa del Sol mae Byron a Huw yn cwrdd â Sebastian ac yn ildio i'w gyfaredd. Mehefin 2007: erbyn hyn, mae Huw yn ddyn tywydd ar y teledu ac yn darogan glaw trwm. Gwerthwr tai yng ngorllewin Cymru yw Byron. Daw tystiolaeth i'r golwg fod Sebastian yn dal yn fyw
£7.99
-
Milwr Bychan Nesta
Nofel am berthynas anarferol rhwng ffoadur a phensiynwraig mewn byd cyfarwydd sydd eto'n sinistr. Hen wraig sy'n byw ar ei phen ei hun yw Nesta Bowen, un annibynnol a hunanfeddiannol. Daw dyn ifanc i'w bywyd, sef ei 'milwr bychan'. Mae'n byw yn y goedwig y tu hwnt i'w gardd, ac yn raddol caiff ei groesawu i'w chartref, a dadlennir datblygiad eu perthynas yn y nofel
£8.99
-
Cornel Aur
Casgliad o straeon, cerddi a llên meicro. Dyma gyfrol hirddisgwyliedig, annisgwyl Manon Rhys, awdur Cwtsho, Cysgodion, Tridiau ac Angladd Cocrotshen, Y Palmant Aur, ynghyd â'r nofel Rara Avis a gyrhaeddodd Restr Fer Llyfr y Flwyddyn, 2006
£7.99
-
Hogan Horni Isio Mwy
Dilyniant i'r nofel Hogan Horni. Dychwelwn at anturiaethau'r newyddiadurwraig dinboeth, Tina Thomas, a'i ffrindiau, Ann a Gwennan, ynghyd â llu o gymeriadau cofiadwy fel Bryn y Boncyn a Marie y Ddraig. Nofel ysgafn, hwyliog, tafod-yn-y-boch.
£7.99
-
Trydydd Peth, Y – Enillydd y Fedal Ryddiaith 2009
Mae George Owens yn 90 oed ac yn myfyrio ar natur dŵr: ar yr H a'r O, ond hefyd ar y "trydydd peth" annirnad hwnnw sy'n gwneud dŵr yn ddŵr. A dyma olrhain hanes perthynas George ag enghraifft benodol o'r elfen honno, sef afon fawr ei gynefin, afon Dyfrdwy. Nofel arobryn y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Meirion a'r Cyffiniau, 2009.
£6.99
-
Nest
Nofel wedi'i gosod yn ystod cyfnod Dafydd ap Gwilym. Mae Efa'n ferch i felinydd ger afon Honddu. Mae'n ysu am gael dianc rhag y bywyd cythryblus, y gwrthryfel a'r pla sydd o'i chwmpas o hyd. Llwydda i ymuno â chiwed o feirdd sy'n clera o gwmpas Cymru. Er mai dim ond am flwyddyn mae hyn yn para, mae'n brofiad sy'n llywio gweddill ei bywyd.
£6.99
-
Hi a Fi
Nofel rannol hunangofiannol gan un o brif lenorion Cymru. Nofel o fewn nofel a geir yma, yn cydio'r heddiw a'r ddoe. Ar ddechrau'r nofel, mae'r awdures yn gweithio ar gyfrol o storïau byrion, ond daw ymweliad annisgwyl Nesta, hen ffrind ysgol iddi, i darfu ar hynny ac i ddeffro'r cof am y ddoe. Yn cydredeg â'r atgofion, mae stori Nesta, sy'n symud yn ôl i fyw i Flaenau Ffestiniog
£7.99
-
Mân Esgyrn
Nofel a dderbyniodd glod uchel yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen 2009. Nofel afaelgar, grefftus am ddiffyg cyfathrebu. Stori gyfoes am Carol, gwerthwr tai 39 oed sy'n dychwelyd i'r dref lle cafodd ei magu. Yno mae'n ailgyfarfod â Helen sy'n gweithio yn y gwaith cemegol lleol, a Luc, archeolegydd.
£7.99
-
Doctor Dail 2
Dilyniant i'r gyfrol Doctor Dail 1. 80 tudalen lliw llawn ar blanhigion meddyginiaethol. Unwaith eto, mae cyfeiriad ynddi at rai blodau gwyllt a rhai o'r ardd. Ceir hefyd ambell i bennod sy'n sôn am blanhigion sydd ddim mor gyffredin i ni yng Nghymru, ond eto rydym yn gyfarwydd iawn â'u henwau.
£5.49



















